Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam 2013
Mae’n ddrwg gan Ŵyl Wyddoniaeth Wrecsam gyhoeddi na fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni.
Mae trefnwyr yr ŵyl, Prifysgol Glyndŵr, Techniquest Glyndŵr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Coleg Iâl a Gyrfa Cymru’r Gogledd Ddwyrain wedi gwneud y penderfyniad anodd i beidio â’i chynnal oherwydd pwysau economaidd a’r llu o ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yn y dref gydol 2013.
Fodd bynnag, mae’r trefnwyr yn awyddus i bwysleisio y bydd yr ŵyl yn dychwelyd yn 2014, gyda’r dyddiad i’w gadarnhau yn fuan.
Dyma’r cyhoeddiad llawn a wnaed gan Brifysgol Glyndŵr:
Ni fydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam yn cael ei chynnal eleni.Gwnaeth y trefnwyr y penderfyniad anodd i beidio â chynnal yr ŵyl oherwydd pwysau economaidd a’r llu o ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yn y dref gydol 2013.
Wedi’i threfnu gan Brifysgol Glyndŵr mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Coleg Iâl, Techniquest Glyndŵr a Gyrfa Cymru’r Gogledd Ddwyrain, roedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal y mis Gorffennaf yma ond bydd yn dychwelyd yn 2014.
Eisoes, cynhaliwyd Ffresh, Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru ym Mhrifysgol Glyndŵr ym mis Chwefror, a bydd dwy gêm Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd yn cael eu chwarae yn Stadiwm Cae Ras y brifysgol ym mis Tachwedd.
Yn ogystal, cynhaliwyd Comic Con Cymru ar gampws Wrecsam y brifysgol dros y penwythnos.
Tra bod y pwyllgor yn siomedig o orfod gwneud y penderfyniad, mae’r brifysgol yn awyddus i bwysleisio ei hymroddiad i ddigwyddiadau addysgol ac addysgiadol a bydd yn cyflwyno cyfres o sgyrsiau gydol 2013.
Yn eu plith bydd darlith gan Paul Rees, Athro mewn Opteg: Metroleg a Thechnoleg ym Mhrifysgol Glyndŵr.Bydd yr Athro Rees yn siarad am Symbiosis Gwyddonol a Thechnolegol – Safbwynt Optegol, yng Nghanolfan Catrin Finch, Ddydd Iau Mai’r 2il am 7pm.
Dywedodd yr Athro Helen James, Cadeirydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam a Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Glyndŵr, fod y partneriaid yn siomedig o orfod gohirio’r digwyddiad ond yn edrych ymlaen at ei chynnal yr haf nesaf.
Meddai’r Athro James: “Wedi dwys ystyriaeth, mae’n ddrwg gan Brifysgol Glyndŵr a’i phartneriaid orfod cyhoeddi na fydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam yn cael ei chynnal eleni. “Gwnaethom benderfyniad ar y cyd i ohirio’r ŵyl oherwydd pwysau economaidd.“
Mae llawer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal ym Mhrifysgol Glyndŵr eleni, gan gynnwys dwy gêm Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd ym mis Tachwedd. Eisoes, cynhaliwyd gŵyl hynod lwyddiannus Ffresh yma yn gynharach eleni, felly ni allem ymrwymo i adnoddau ychwanegol yr haf yma.”
Ychwanegodd yr Athro James y bydd hoe o’r ŵyl wyddoniaeth yn rhoi cyfle i’w phwyllgor ailymgynnull a dychwelyd yn gryfach nag erioed. “Mae Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam wed gweithio’n galed dros nifer o flynyddoedd i sicrhau ei statws fel y prif ddigwyddiad cyfathrebu gwyddoniaeth yng Ngogledd Cymru, a’r ŵyl fwyaf o’i bath yng Nghymru,” meddai.
“Hoffem ddiolch i’w holl gyfranogwyr a chefnogwyr am eu hymroddiad i’r digwyddiad yn ystod y 14 blynedd diwethaf, ac edrychwn ymlaen i’ch gweld yn 2014.”

01978 293293
wsf@glyndwr.ac.uk





