Cyflwyno sioe neu gynnig profiad gwyddonol rhyngweithiol yn Gwychoniaeth
Mae Gwychoniaeth yn ddigwyddiad gwyddoniaeth undydd, ymarferol i’r teulu a gynhelir bob blwyddyn ym Mhrifysgol Glyndŵr fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Wrecsam. Y llynedd roedd gennym dros 60 o arddangoswyr a helpodd i greu awyrgylch anhygoel.
Fel arddangoswyr mae yna nifer o opsiynau ar gael i chi:
- Profiad rhyngweithiol – byddai hyn yn eich galluogi i gael stondin ym mhrif arddangosfa Gwychoniaeth. Ar y stondin yma gallech gael arddangosiadau a gweithgareddau addas ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd. Ein hunig amod yw eu bod yn canolbwyntio ar wyddoniaeth mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
- Sioe – yn ogystal â’ch stondin neu fel dewis amgen fe allech gael ystafell o fewn y brifysgol i gynnal arddangosiad neu sioe yn ystod y digwyddiad.
Nid yw’r uchod yn ddigyfnewid, ac yr ydym yn agored i gynigion. Neu pe hoffech gael sgwrs gyda rhywun am eich syniadau cysylltwch â’r trefnwyr ar 01978 293473 neu ebostiwch wsf@glyndwr.ac.uk
Enghreifftiau o arddangoswyr y gorffennol
Professor Crump Entertainments Ltd; Spacefund; Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd, Cyngor Sir Ddinbych; Maelor Angling Association; Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant; Technoleg Cyfathrebu Prifysgol Glyndŵr; Adran Gyfrifiadura Prifysgol Glyndŵr; Gwyddoniaeth Fforensig Prifysgol Glyndŵr; Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prifysgol Glyndŵr; Ymddiriedolaeth Adar Gogledd Cymru; Resources Plus; RoboFesta-UK; RSPB; Ysgol Gwyddorau Biolegol, Ysgol Ddefnyddiau – Prifysgol Manceinion; Ysgol Eigioneg, Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol, SCIntillate Education Services Limited; The-BA; The Association for Science Education; The Magic Mathworks Travelling Circus; Prifysgol Cymru; Sŵ Mynydd Cymru; Will Embliss Independent Sound Maker; Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; Ysbyty Wrecsam Maelor; Xbotz; ESRC/RCUK; Chrysalis Pets; Ysgol Beirianneg Drydanol; Pwyllgor Addysg a Gwaith Allanol; Trwy’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol; Hanes Byw Gwyddoniaeth; Prifysgol Plant Wrecsam; Cyngor Cefn Gwlad Cymru; Funk It! Face Painting and Body; Art UK; Heddlu Gogledd Cymru; Labordy Eigionegol Proudman; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau; Amgueddfa’r Byd Lerpwl

01978 293466
wsf@glyndwr.ac.uk






