Darlithoedd, arddangosiadau a gweithdai yng Ngŵyl Wyddoniaeth Wrecsam
Mae Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam wrth ei bodd yn herio’r ffordd y mae pobl yn meddwl am wyddoniaeth. Bob blwyddyn rydym yn dod â’r diweddaraf mewn meddwl ac arloesi gwyddonol, yn annog trafodaethau am ddamcaniaethau a safbwyntiau gyda’r arbenigwyr, ac yn darparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig i bobl o bob oedran.
Rydym bob amser yn cadw llygad ar agor am syniadau newydd a siaradwyr newydd i gadw’n gŵyl yn fyw, ac i ddal ati i ysbrydoli’r gymuned leol.
Os oes gennych syniad ar gyfer digwyddiad, neu eisiau cyfranogi eich hun, buasem yn falch iawn o glywed gennych chi. Pe hoffech sgwrsio gyda rhywun am eich syniadau, cysylltwch â’r trefnwyr ar 01978 293466 neu ebostiwch wsf@glyndwr.ac.uk

01978 293466
wsf@glyndwr.ac.uk





