Sut i fod yn noddwr
Mae ein pecynnau nawdd wrth fesur yn ddelfrydol nid yn unig i ddod â’ch cwmni i’r amlwg ond hefyd er mwyn cefnogi eich cymuned leol.
Denodd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam 2008 dros 10,500 o ymwelwyr i’r darlithoedd, arddangosiadau ac arddangosfeydd amrywiol, ac eleni yr ydym yn gobeithio ei gwneud yn fwy ac yn well.
Dyma ble gallwch chi helpu!
Ein nod
Ein nod gyda Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam yw cyrraedd gymaint o bobl â phosibl yn y gymuned leol i gael golwg ar fyd anhygoel gwyddoniaeth. Nid ydym yn gwneud elw, a gallwch fynychu’r rhan fwyaf o’n digwyddiadau am ddim. Pan fyddwn yn codi tâl mynediad, dim ond er mwyn talu am y costau yr ydym yn gwneud hynny.
Sut allwch chi helpu?
Gyda’ch nawdd chi gallwn gadw gymaint o elfennau’r rhaglen gyhoeddus â phosibl i’w mynychu am ddim. Mae hyn yn ein galluogi i barhau i weithrio tuag at ein nod o roi cyfle i bawb yn y gymuned leol ddysgu.
Ein pecynnau nawdd
Nid oes gennym becynnau nawdd gosod am ein bod eisiau i chi gael yr hyblygrwydd i ddewis a dethol beth sydd fwyaf priodol i’ch busnes chi.
Byddwch yn gallu dewis o noddi Darlith Gyhoeddus benodol i Ŵyl Wyddoniaeth Wrecsam yn gyffredinol.
Pe hoffech drafod yr opsiynau nawdd ymhellach, ffoniwch dîm Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam ar 01978 293473 neu ebostiwch wsf@glyndwr.ac.uk

01978 293466
wsf@glyndwr.ac.uk






