Flickr Logo

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam

Mae Cystadleuaeth Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam yn awr wedi cau.  Diolch yn fawr i bawb a gymerodd rhan.
 

Cyhoeddir manylion o’r rhestr fer a’r enillwyr ar Ddydd Iau 1 Gorffennaf felly cadwch lygad ar y tudalennau hyn ar ôl y dyddiad yma.

 Eleni rhoddodd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam y cyfle i chi arddangos eich sgiliau ffotograffiaeth a dehongli, ac i ddefnyddio eich sgiliau i dynnu lluniau i gydfynd â themâu’r Ŵyl eleni:


•  Y Ddaear a’r Bydysawd

•  Byd yr Anifeiliaid

•  Y Corff a’r Meddwl Dynol

•  Gwreichion Llachar.

 

Fe fydd yna enillydd a ffotograff cymeradwyedig yn cael eu dewis ar gyfer pob categori.  Bydd yr enillwyr terfynol yn cael cyfle i ennill ‘Gorau’r Ŵyl, Gwobr y Gynulleidfa’.


Diolch i Allington Hughes a Vostro Cameras am noddi’r gwobrau.