SF09logo
Thursday 19 – Friday 27 July 2012
Dydd Iau 19 – Dydd Gwener 27 Gorffennaf 2012

Flickr Logo

Rhaglen Ysgolion Cynradd 2011

Hedfan (I gydfynd ag Icosahedra)

Lefel a rhifau: Blynyddoedd3-6, mwyafswm 30
Hyd:  Dwy awr+
Gofynion: Neuadd a mynediad i faes chwarae neu le mawr agored
Cyflwynydd: Kaja Fronczyk

Mae Hedfan yn dechrau gyda chymhariaeth o hedfan anifeiliaid yn arwain at y modd y ceir egwyddorion tebyg mewn hedfan awyrennau modern. Bydd y disgyblion yn gwneud eu hawyrennau papur eu hunain ac yn defnyddio lansiwr awtomataidd. Yn yr ail ran, edrychir ar rocedi trwy wneud a lansio rocedi papur gan ddefnyddio lansiwr awyr gywasgedig. 

Icosahedra (I gydfynd â Hedfan)

Lefel a rhifau: Blynyddoedd3-6, mwyafswm 28
Hyd:  Dwy awr
Gofynion: Neuadd neu ystafell fawr gyda nenfwd uchel
Cyflwynydd: Matt Szklanny

Mae icosahedron yn solet neu strwythur gydag 20 ochr. Yn wahanol i grisialau mwy cyffredin, mae’r strwythurau 20-ochr yma mor brin, neu mor fach, fel mewn annwyd cyffredin, nes eu bod yn anweledig. Yn y gweithdy mathemateg ac adeiladu yma bydd y plant yn adeiladu icosahedra o sawl maint ac yn gweithio ar eu nodweddion rhifol, gyda’r lefel o anhawster yn dibynnu ar flwyddyn y grŵp. Mae’n galw am waith tîm da a gallu rhifol sylfaenol. 

Gwyddor Tywod (I gydfynd ag Adeiladu Tîm)

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 5-6 os yn bosib er y gellid cynnwys rhai blynyddoedd 3-4, mwyafswm 30
Hyd: 75 munud, 2 sesiwn y bore neu un sesiwn estynedig yn y prynhawn
Cyflwynydd: Christine Conway

Mae Gwyddor Tywod yn trin tywod fel deunydd. Mae’n esbonio ei darddiad a’i ymddygiad pan fydd yn cael ei lunio gan wynt a dŵr, yn enwedig y patrymau sy’n medru ffurfio. Mae ei debygrwydd i bowdrau a ddefnyddir mewn diwydiant yn arwain at sesiwn ymarferol ble mae plant yn ymchwilio i’r symudiad a’r patrymau mewn powdrau a defnyddiau gronynnog. Mae’n ennyn diddordeb mewn defnyddiau naturiol yn ein hamgylchedd. Cyfuniad diddorol o ddaeareg a defnyddiau. Noddir gan Wockhardt UK Ltd

Adeiladu Tîm (I gydfynd â Gwyddor Tywod)

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 3-6, mwyafswm 50
Hyd: Dwy awr
Gofynion: Neuadd neu ystafell ddosbarth fawr wedi’i chlirio o ddodrefn
Cyflwynydd: Daniela Szczygiel

Mae’r digwyddiad adeiladu yma yn annog gwaith tîm yn ogystal â chystadleuaeth. Yn dibynnu ar faint o le sydd ar gael, bydd y timau yn gwneud pontydd, tyrau a saerniaethau eraill. Mae’n annog dyfeisgarwch ystyrlon, ymarferoldeb, cynhwysedd o fewn timau ac ysbryd cystadleuol rhwng timau.  

Lleisiau a Synau (I gydfynd â Microscopic (Saesneg))

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 5-6 os yn bosib, mwyafswm 28
Hyd: Dwy awr
Cyflwynydd: Daniela Szczygiel

Gweithdy ble mae plant yn archwilio natur sain. Mae’n dangos sut mae’r llais yn cael ei gynhyrchu a’i berthynas â synau eraill sy’n cael eu gwneud yn fecanyddol ac yn electronig. Pam fod lleisiau plant yn uwch na lleisiau oedolion? Sut mae uchelseinyddion yn gwneud eu synau a pham eu bod wedi dod yn fwy fflat dros y blynyddoedd? Bydd y cwestiynau hyn a llawer o rai eraill yn cael eu hateb trwy arbrofion plant a gan Daniela a fydd o dro i dro yn defnyddio ei llais canu mezzo-soprano i arddangos y wyddoniaeth tu ôl i sain.

Microscopic (fersiwn Saesneg) (I gydfynd â Lleisiau a Sain ac ar yr 17eg yn unig, Môrladron)

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 3-6, mwyafswm 28
Hyd: Dwy awr
Cyflwynydd: Steve Conway

Ar ôl i blant gael eu cyflwyno i lensys a mesuriadau syml i’w disgrifio, mae’r gweithdy yn cyflymu a bydd y plant yn gweithio mewn parau wrth eu microsgopau i edrych ar ystod gyfan o wrthrychau. Fe’u hanogir i ddefnyddio geiriau disgrifiadol ac i chwilio am gliwiau nes y rhoddir disgrifiad llawn y gwrthrych neu’r defnydd. Mae’r gweithdy yn boblogaidd iawn gyda grwpiau pob blwyddyn ond wedi’i gyfyngu i flynyddoedd 3/4 pan fydd yn cydfynd â Lleisiau a Synau (blynyddoedd 5/6) os nad oes gennych ddau ddosbarth neu fwy o’r grwpiau blwyddyn hynny.

Môrladron (I gydfynd â Microscopic (Saesneg))

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 3-6, lleiafswm 20, mwyafswm 45
Hyd:  Dwy awr+
Gofynion: Neuadd gyda chylchenni pêl-rwyd neu bêl-fasged
Cyflwynydd: Daniela Szczygiel

Mae hon yn gêm adeiladu gywrain sy’n seiliedig ar dri thîm sy’n gorfod adeiladu tyrau symudol a sgorio yn erbyn eu gwrthwynebwyr tra’n ceisio peidio â cholli yn erbyn y môrladron yr un pryd.

Microsgop (fersiwn Gymraeg)

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 3-6, mwyafswm 28
Hyd: Dwy awr
Cyflwynydd: Hawys Parry

Cyfyngir i ysgolion Cymraeg gwledig. Ar ôl i blant gael eu cyflwyno i lensys a mesuriadau syml i’w disgrifio, mae’r gweithdy yn cyflymu a bydd y plant yn gweithio mewn parau wrth eu microsgopau i edrych ar ystod gyfan o wrthrychau. Fe’u hanogir i ddefnyddio geiriau disgrifiadol ac i chwilio am gliwiau nes y rhoddir disgrifiad llawn y gwrthrych neu’r defnydd. Mae’r gweithdy yn boblogaidd iawn gyda grwpiau pob blwyddyn ond wedi’i gyfyngu i flynyddoedd 3/4 pan fydd yn cydfynd â Lleisiau a Synau (blynyddoedd 5/6) os nad oes gennych ddau ddosbarth neu fwy o’r grwpiau blwyddyn hynny

Noddir gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain/Llywodraeth Cynulliad Cymru

Uchafswm Storio

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 5-6 yn unig, mwyafswm 28
Hyd: Dwy awr+
Cyflwynydd: Christine Conway

Pam fod seilos grawn a thanciau storio olew yn silindrau? Ai dyma’r siâp grau i storio defnyddiau? Pam fod y rhan fwyaf o dai yn betryal ond goleudai yn silindrau pigfain? Mae peirianwyr sifil yn cynllunio ac adeiladu’r strwythurau mwy tra’n mynd ati i ddatrys y problemau hyn fel mater o drefn. Edrychir ar y cwestiynau hyn sy’n ymwneud â siâp, arwynebedd, cyfaint a grymoedd mewn gweithdy seiliedig ar fathemateg a thechnoleg.  

Ffisian Asid

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 5-6, mwyafswm 28
Hyd: Dwy awr
Gofynion: Gallu defnyddio sinc
Cyflwynydd: Christine Conway

Rydym i gyd yn defnyddio’r gair asid mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r cyflwyniad yn edrych ar asid yn fwy manwl a’r modd y maent yn gweithredu ar garbonadau sy’n peri i dabledi ffisian, a’r systemau ogof a ddarganfyddir yng Nghymru a llefydd eraill. Bydd y plant yn cael y cyfle i arbrofi gydag asidau a charbonadau gwahanol ond diogel. Edrychir ar fferins a’u cynnwys trwy eu labeli a chyflwyniad eu helfennau asid. Cyflwyniad cemeg syml i asidau ac agoriad llygad i gynnwys fferins plant.   

Magnetedd

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 5-6, mwyafswm 30
Hyd: Un awr, 2 neu 4 sesiwn y dydd
Cyflwynydd: Margaret Frith

Mae magnetedd yn dechrau gyda hanes, o’r cwmpawd tynfaen cynnar i’r uwchfagnedau modern a ddatblygwyd yn 1985. Mae’r arddangosiadau yn dangos rhai gweithrediadau mwy anghyffredin, gan gynnwys ymddyrchafael, a sawl math o fagned. Mae’r adran ymarferol yn cynnwys cyfres o arbrofion i ddeall gweithrediad grym magnetig trwy wneud electromagned a mesuriad syml o rymoedd gwrthyrrol.

Fforiwr Ffyrdd

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 5-6 ond gyda nifer gyfyngedig o o flynyddoedd 3-4 mewn ysgolion llai, mwyafswm 32
Hyd: Dwy awr
Cyflwynydd: Michelle Brown (siaradwraig Gymraeg)

Mae Fforiwr Ffyrdd yn her rifol a rhesymegol, mewn fframwaith peirianneg sifil, i fforio ffordd ar draws tirlun dychmygol. Mae’n ymwneud â chynllunio o flaen llaw, prynu, mesur a chodi pont er mwyn galluogi ffordd y tîm i symud yn eu blaen ar draws y tirlun. Mae galw am allu darllen da, rhifyddeg syml a hyder wrth fesur mewn milimedrau gan o leiaf rai o’r plant sy’n cynnwys timau o bump.  

Tyrau

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 3-6, mwyafswm 50
Hyd: Dwy awr
Gofynion: Byddai neuadd yn ddelfrydol ond byddai rhandy neu rywle gyda nenfwd uchel yn gwneud y tro
Cyflwynydd: Matt Szklanny

Mae peirianwyr sifil yn helpu i godi’r strwythurau uchaf ar y blaned, o’r Burj (gair Arabaidd am dŵr) talaf yn y byd i’r mastiau teledu talaf. Mae’r gweithgaredd hwn yn ymwneud yn bennaf â chodi tyrau o ddefnyddiau amrywiol, gan gychwyn gyda rhai bach ond yn codi i dyrau 6m mawr, os yw’r nenfwd yn ddigon uchel. Mae gweithio gyda siapiau, cyfrif syml a gwaith tîm yn gwneud hwn yn weithdy hwyliog.

Bwystfilod Symudol

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 3-4 yn unig, mwyafswm 32
Hyd: Dwy awr
Cyflwynydd: Hawys Parry (siaradwraig Gymraeg)
Gofynion: Rhan 1, ystafell ddosbarth. Rhan 2, neuadd neu le mawr clir.

Yn rhant 1, bydd y plant yn creu eu peiriannau syml eu hunain o ystod o ddefnyddiau a gyflenwyd ar ôl cyflwyniad byr ar greu symudiad. Yn rhan 2, byddant yn adeiladu peiriant syml wedi’i yrru gan bropelor er mwyn cystadlu mewn râs beiriannau. Gweithdy technoleg hwyliog. 

Daeareg

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 3-6, mwyafswm 30
Hyd: Dwy awr
Cyflwynydd: Steve Conway

Faint yw oed creigiau? O ble maent yn dod? Beth yw mwynau? Arddangosiad a gweithdy yn cwmpasu defnyddiau, daeareg a’r Ddaear yn gyffredinol.

Blodau

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 3-6, mwyafswm 30
Hyd: 75 munud
Cyflwynydd: Michelle Brown (siaradwraig Gymraeg)

Mae’r cyflwyniad yma yn edrych ar rôl blodau yn yr ecosystem, o’r blodau hardd sy’n denu pryfed i’r blodau plaen ond diddorol a esblygodd er mwyn cael eu peillio gan y gwynt. Sesiwn ymarferol hwyliog sy’n edrych ar flodau, yna’n gweithio gyda phersawr a lliw, gan ddyfnhau dealltwriaeth plant o’r atyniad i’r pryfed a’r budd ar gyfer y planhigyn.

Hud a Lledrith Cemegol

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 5-6, 28 mwyafswm
Hyd: Un i ddwy awr
Cyflwynwyr: Dr. Loretta Murphy a myfyrwyr/mfyrwyr uwchraddedig cemeg.

Mae hwn yn weithgaredd ymarferol, hwyliog yn bennaf wedi’i seilio o gwmpas cyfres o arbrofion i gyflwyno cemeg i blant ysgol gynradd. Diwrnod wedi’i roi gan adran gemeg Prifysgol Bangor.

Aero

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 3-6 ond yn fwy addas ar gyfer blynyddoedd 5-6, mwyafswm 30
Hyd:  Dwy awr
Gofynion: Neuadd neu le mawr wedi’i glirio o ddodrefn
Cyflwynydd: Steve Conway

Sut mae peiriannau yn hedfan? O ymdrechion cynnar y brodyr Wright i’r awyrennau teithwyr diweddaraf, bydd plant yn cael y cyfle i ddeall sut mae awyrennau yn hedfan mewn mwy o fanylder. Mae’r sesiwn ymarferol yn cynnwys gwneud sawl model papur a fydd yn hedfan mewn ffyrdd penodol er mwyn datrys heriau. 

Elfennau a Defnyddiau

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 5-6, mwyafswm 28
Hyd: Dwy awr
Cyflwynydd: Steve Conway

Elfennau, fel y mae’r enw’n ei awgrymu, yw’r sylweddau sy’n cyfannu’r holl ddefnyddiau eraill. Bydd planedau pellennig o gwmpas sêr eraill wedi’u cyfannu o’r un elfennau’n union â’n system heulol ni. Yn y gweithdy yma gyda sawl arbrawf bydd plant yn cael y cyfle i weld llawer o elfennau yn agos. Maent hefyd yn trawffurfio elfen yn gyfres o gemegau er mwyn dangos mai elfennau yw’r sylfaen ar gyfer cemeg. 
Noddwyd gan Ymddiriedolaeth Gogledd Orllewin y Gymdeithas Frenhinol Gemeg

Gwyddoniaeth i Fabanod

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 1-2, mwyafswm 32
Hyd: Dwy awr
Gofynion: Neuadd neu ystafell fawr gyda lle clir
Cyflwynydd: Hawys Parry neu Steve Conway

Mae gwyddoniaeth i fabanod yn gyfres hwyliog o weithgareddau sy’n ymwneud â gwyddoniaeth a rhifau sylfaenol. Er enghraifft, bydd y cyfranogwyr yn cael chwythu model wrth raddfa o falŵn ar poeth wedi’i wneud o ddefnyddiau go iawn sy’n ymchwyddo o’r llawr i’r nenfwd.

Geo-gromen

Lefel a rhifau: Blynyddoedd 5-6 neu flynyddoedd cymysg 3-6, lleiafswm 30, mwyafswm 55.
Hyd:  Dwy awr+
Gofynion: Neuadd, gan fod y strwythur tua 4m ar draws ac o uchder tebyg
Cyflwynydd:  Steve Conway

Mae strwythurau geodesig wedi’u gwneud o elfennau trionglog sy’n gwneud pentagonau a hecsagonau mewn ffordd union yr un fath â phaneli pêl-droed. Fe’u defnyddir ar gyfer strwythurau ysgafn i gwmpasu radarau a phlantaria. Mae’r adeiladwaith yma yn cynnwys dros 400 o ddarnau ac mae’n cymryd gwaith tîm gwuch i ddilyn y camau wedi’u coreograffu dan arweiniad y cyflwynydd. Nid yw’n syndod fod y timau iau bron bob amser yn gwneud yn dda tra bod timau hŷn yn fwy tebygol o adeiladu hyn yn yr amser a ganiateir.