Flickr Logo

Rhaglen ysgolion uwchradd

9 Mawrth - 4 Ebrill 2009

Bwriad y rhaglen hon yw eich helpu chi gyda’ch cynlluniau ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam a’r Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Gallwch archebu’r sesiynau hyn, neu gallwch wneud pethau ar eich liwt eich hun. Mae cymorth ariannol ar gael i’ch ysgol trwy Gyrfa Cymru’r Gogledd Ddwyrain.

Cysylltiadau ar gyfer gwybodaeth bellach:

  • Gyrfa Cymru’r Gogledd Ddwyrain: Dave Fitzsimmons, Rhif ffôn 01352 750 456, Ebost dave.fitzimmons@cwne.org
  • TECHNIQUEST@NEWI: Dave Kynes, Rhif ffôn 01978 293400

Gwefannau ar gyfer mwy o syniadau:

Teitl Jim Ballentine – Darlith Gwyddoniaeth ac Ynni
Blwyddyn 10/11
Dyddiad 11 Mawrth 2009
Amser Sesiwn Bore a Sesiwn Prynhawn
Lleoliad Willaim Aston Hall Prifysgol Glyndŵr
Cost AM DDIM
Wedi’i dyfeisio ym 1990, mae’r gyfres hon o ddarlithoedd, wedi’i chyflwyno gan Jim Ballantine, wedi cael ei pherfformio dros 600 o weithiau i gyfanswm o 60,000 o ddisgyblion. Yn ystod y ddarlith, anogir disgyblion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o arbrofion sy’n canolbwyntio ar ynni a throsglwyddo ynni. Mae’r ddarlith hon yn cwmpasu egwyddorion allweddol maes llafur TGAU.
Archebu

Ffoniwch Techniquest Glyndŵr ar 01978 293400

 

Teitl O STIW I BW-PW
Cyfnod Allweddol 3 - Blynyddoedd 7 ac 8
Dyddiad 3 Ebrill 2009
Amser Prynhawn
Lleoliad Prifysgol Glyndŵr
Cost AM DDIM
Golwg unigryw ar y modd y mae bwyd yn cael ei dreulio a’r llwybr y mae’n ei gymryd trwy’r corff. Wedi’i anelu at GA3 is, dylai’r sioe hon eich gadael chi gyda theimlad ych-a-fi na wnewch chi mo’i anghofio!
Archebu

Ffoniwch Techniquest Glyndŵr ar 01978 293400

 

Teitl CRYNDO’R CELLOEDD
Cyfnod Allweddol 3
Dyddiad 9 Mawrth - 4 Ebrill 2009
Amser I’w gadarnhau wrth archebu
Lleoliad Yn eich ysgol
Cost

Hanner diwrnod (3 sesiwn): £150 + TAW
Diwrnod llawn (6 sesiwn): £210 + TAW

Trwythwch eich disgyblion mewn profiad cryndo pwmpiadwy. Mae’r sioe ryngweithiol hon un rhoi cip bychan ar raddfa fawr i’r disgyblion. Cyflwynir celloedd anifeiliaid a phlanhigion a’u horganelau, gan gynnwys cyflwyniad i rai celloedd arbenigol, eu swyddogaethau a’u rhyngberthnasau. Gall pob sesiwn ddal 30 o ddisgyblion.
Archebu

Ffoniwch Techniquest Glyndŵr ar 01978 293400

 

Teitl CRYNDO’R SÊR
Cyfnod Allweddol 3 & 4
Dyddiad 9 Mawrth - 4 Ebrill 2009
Amser I’w gadarnhau wrth archebu
Lleoliad Yn eich ysgol
Cost

Hanner diwrnod (3 sesiwn): £150 + TAW
Diwrnod llawn (6 sesiwn): £210 + TAW

Sut wnaeth y bydysawd ddechrau ac i ble mae’n mynd? Faint yw ei oed? Sut mae sêr yn cael ei ffurfio? Lansiwch eich dosbarth i’r gofod gyda’r sioe planetariwm pwmpiadwy yma i ddarganfod yr atebion. Bydd y disgyblion hefyd yn dysgu sut mae bodau dynol a lloerennau artiffisial yn gadael awyrgylch y Ddaear i fynd i orbit, a sut fath o beth yw bywyd mewn amodau dibwysau. Gall pob sesiwn ddal 30 o ddisgyblion.
Archebu

Ffoniwch Techniquest Glyndŵr ar 01978 293400

 

Teitl ATOMIG!
Cyfnod Allweddol 4
Dyddiad 9 Mawrth - 4 Ebrill 2009
Amser I’w gadarnhau wrth archebu
Lleoliad Yn eich ysgol
Cost

Hanner diwrnod (3 sesiwn): £150 + TAW
Diwrnod llawn (6 sesiwn): £210 + TAW

Ewch am daith i ganol yr atom yn y sioe cryndo pwmpiadwy hollol drochadwy hon. Edrychwch ar y modd y mae gwyddonwyr yn defnyddio damcaniaethau sydd eisoes yn bodoli i ehangu eu dealltwriaeth o’r modd y mae’r byd yn gweithio a darganfyddwch sut y gall y gronynnau lleiaf ein helpu ni i ddeall rhannau mwyaf y bydysawd.
Archebu

Ffoniwch Techniquest Glyndŵr ar 01978 293400

 

Teitl TRAFODWCH:DNA
Lefel A/SU
Dyddiad 9 Mawrth - 4 Ebrill 2009
Amser I’w gadarnhau wrth archebu
Lleoliad Yn eich ysgol
Cost £50 + TAW y sesiwn, hyd at 4 sesiwn y dydd
Gêm wedi’i harwain gan gyflwynydd at hyd at 30 o ddisgyblion, sy’n eu hannog i drafod y materion cymdeithasol a moesol sy’n gysylltiedig â’r Gronfa Ddata DNA Cenedlaethol. Mae’r pynciau yn cynnwys proffilio DNA, gwyddoniaeth fforensig, perchnogaeth genynnau a datblygiadau mewn technoleg genetig a’u heffaith ar gymdeithas.
Archebu

Ffoniwch Techniquest Glyndŵr ar 01978 293400

 

Teitl PECYN MATHEMATEG
Cyfnod Allweddol 3
Dyddiad 9 Mawrth - 4 Ebrill 2009
Amser I’w gadarnhau wrth archebu
Lleoliad Yn eich ysgol
Cost £75 + TAW – cynnig arbennig ar gyfer yr Ŵyl Wyddoniaeth

Crëwch arddangosfa ymarferol fechan yn eich ysgol eich hun gyda’r gyfres yma o bosau a gêmau mathemateg. Mae’r arddangosion hawdd-eu-defnyddio hyn wedi’u cynllunio’n arbennig i ysgogi a diddori disgyblion o bob gallu. Mae’r Pecyn yn cwmpasu sawl maes pwysig o’r Cwricwlwm ac yn annog disgyblion i archwilio, darganfod a phrofi. 

Daw’r Pecyn gyda defnyddiau cynhwysfawr cyn ac ar ôl gweithgaredd a nodiadau cefnogi athrawon sy’n eich arwain chi trwy lu o fentrau dysgu. Mae’r Pecyn Mathemateg hefyd yn darparu gweithgareddau delfrydol ar gyfer digwyddiadau cyflenwi ysgolion.

Archebu

Ffoniwch Techniquest Glyndŵr ar 01978 293400

 

Teitl PECYN GRYMOEDD
Cyfnod Allweddol 3
Dyddiad 9 Mawrth - 4 Ebrill 2009
Amser I’w gadarnhau wrth archebu
Lleoliad Yn eich ysgol
Cost £75 + TAW – cynnig arbennig ar gyfer yr Ŵyl Wyddoniaeth

Crëwch arddangosfa ymarferol fechan yn eich ysgol eich hun gyda’r gyfres yma o bosau a gêmau mathemateg. Mae’r arddangosion hawdd-eu-defnyddio hyn wedi’u cynllunio’n arbennig i ysgogi a diddori disgyblion o bob gallu. Mae’r Pecyn yn cwmpasu sawl maes pwysig o’r Cwricwlwm ac yn annog disgyblion i archwilio, darganfod a phrofi.

Daw’r Pecyn gyda defnyddiau cynhwysfawr cyn ac ar ôl gweithgaredd a nodiadau cefnogi athrawon sy’n eich arwain chi trwy lu o fentrau dysgu. Mae’r Pecyn Grymoedd hefyd yn darparu gweithgareddau delfrydol ar gyfer digwyddiadau cyflenwi ysgolion.

Archebu

Ffoniwch Techniquest Glyndŵr ar 01978 293400