WSF Logo Small
Event Information and Enquiries Tel: 01978 293466

Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam 2009

Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam 2009

Mae’n bosib mai Gŵyl eleni fydd y fwyaf eto – yn llawn i’r ymylon o hwyl gwyddoniaeth i bob oedran.

Rhaglen gyhoeddus

Dysgwch am Wyddoniaeth y Llais Canu  neu darganfyddwch gyda pwy’n union yr ydym yn rhannu’r ddaear yn y sgwrs am Swydd Gaer Oruwchnaturiol.

Camwch yn ôl mewn amser i ddarganfod ble dechreuodd gwyddoniaeth gyda’r awdur adnabyddus Patricia Fara wrth iddi ein tywys trwy 4000 o flynyddoedd o wyddoniaeth. Neu dysgwch am hanes Wrecsam wrth gerdded ar hyd .

Gan ei bod yn Flwyddyn Seryddiaeth Ryngwladol, rydym wedi trefnu cyfres o sgyrsiau i hogi chwilfrydedd unrhyw sêr-dremiwr. Yn lansio’r sgyrsiau ar ddydd Gwener y 27ain o Fawrth bydd Guy Hurst, Golygydd The Astronomer Online, gyda Meithrin Cydweithrediad Proffesiynol-Amatur. Yn y sgwrs yma bydd yn cyflwyno seryddiaeth ac yn egluro sut y gallwn fwynhau’r hyn sydd gan awyr y nos i’w gynnig. Mae sgyrsiau eraill yn cynnwys a . 

Am fanylion pellach o’r sgyrsiau sydd ar gael, a sut i archebu, ewch i’r dudalen Sgyrsiau a Sioeau Cyhoeddus.

Gwychoniaeth - Sadwrn 4 Ebrill 2009, 10.30am-4.00pm

Bydd Gwychoniaeth eleni yn ferw o brysurdeb, wedi’i rannu yn zônau â themâu. Byddwch yn cael cyfle i gyfarfod ag arth wen, chwarae gyda nadroedd, rhoi cynnig ar ddarlledu radio ar fws y BBC, a darganfod sut mae eich Wii yn gweithio trwy gwrteisi Prifysgol Bangor.

Felly pa Zônau allwch chi eu disgwyl?

  • Y Zôn Anifeiliaid
  • Y Zôn Dechnoleg
  • Y Zôn Iechyd a’r Corff Dynol

Ynghyd ag ychydig o ryfeddodau eraill, felly gwyliwch y gofod hwn!

Rhaglen ysgolion

Mae ein rhaglen i ysgolion wedi’i hanelu at ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae’r rhaglen ysgolion yn cynnig sgyrsiau gwyddonol y gellir eu cynnal naill ai yn eich ysgol neu yn un o’n lleoliadau.

Ymwadiad: Tra bod Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a geir ar y tudalennau hyn, hoffai’r Ŵyl bwysleisio y gallai’r cynnwys newid yn ôl y galw. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau, camddisgrifiadau na newidiadau a allai fod yn angenrheidiol yn sgîl hynny. Yr ymwelwyr sy’n gyfrifol am wirio cywirdeb ffeithiau perthnasol gyda threfnwyr yr Ŵyl cyn gwneud unrhyw ymroddiad yn seiliedig arnynt.