Gwychoniaeth 2009
Sadwrn 4 Ebrill 2009, 10.30am-4.00pm
Eleni bydd Gwychoniaeth yn gyfuniad arall o arddangosfeydd, arddangosiadau a sioeau cyffrous.
Wedi’u rhannu yn zônau â thema, byddwch yn gallu cerdded trwy ryfeddodau byd yr anifeiliaid; dysgu sut mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn gweithio; darganfod popeth am y corff dynol ac archwilio materion amgylcheddol – i gyd mewn ffordd ryngweithiol arbrofol!
Zôn Anifeiliad
A ydych chi erioed wedi bod eisiau dod wyneb yn wyneb ag arth wen? Wedi meddwl beth sydd yn y môr gyda chi tra’n nofio ar eich gwyliau haf? Neu eisiau gwybod sut mae croen neidr yn teimlo? Dyma eich cyfle i gael ateb i’r cwestiynau hyn! Bydd Zôn Anifeiliaid Gwychoniaeth yn cyflwyno llu o anifeiliaid, yn amrywio o bryfetach bach i greadur anferth fel yr arth wen, a bydd criw o arbenigwyr yno i siarad â chi.
Zôn Fodurol
Yn y zôn yma darganfyddwch am geir cyflym, eco geir, ceir heulol, ceir clasurol a rhai dyfeisiadau cludiant eraill. Byddwch yn gallu dysgu am sut mae’r cyfan yn gweithio a sut allwch chi ddechrau cynllunio eich cludiant eich hun.
Zôn y Ddaear a’r Amgylchedd
Darganfyddwch beth sy’n achosi niwed i’n planed yn y zôn yma a dysgwch sut allwn ni atal hyn. Archwiliwch newid yn yr hinsawdd, pa effeithiau y mae llygredd dŵr yn ei gael ar fywyd gwyllt, ac ewch ati i wneud eich papur wedi’i ailgylchu eich hun.
Zôn Arbrofol
Mae’r zôn yma yn eich galluogi i gymryd rhan yn yr arbrofion sy’n cwmpasu’r sbectrwm gwyddoniaeth cyfan. Os ydych yn chwilio am hwyl gludiog a heriau adeiladu, dyma’r zôn i chi.
Zôn Ddarganfod– Techniquest Glyndŵr
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth yw Techniquest Glyndŵr sydd wedi’i chynllunio i gael pobl o bob oedran i ymddiddori yn ein byd anhygoel o wyddoniaeth. Mae gan y ganolfan dros 65 o arddangosion rhyngweithiol ymarferol a gweithgareddau hwyliog i’r teulu.
Zôn Dechnolegol
Bydd y zôn yma yn llawn dop o berlau technolegol. O ddysgu sut mae darn llaw Wii yn gweithio i ddarganfod sut i wneud eich sioe radio eich hun, bydd unrhyw egin ddyfeisiwr neu beiriannydd yn eu helfen. Mae’n bur debygol hefyd y bydd hwn yn un o’r zônau mwyaf swnllyd yn Gwychoniaeth, yn rhoi cyfle i chi arbrofi gyda sain mewn ffordd unigryw.
Zôn Iechyd a’r Corff Dynol
Dyma’r lle i ddarganfod beth sydd yn ein cyfansoddiad, neu i’r rheiny ohonoch heb stumog rhy wan weld sut mae samplau o feinwe a hylifau’r corff yn helpu i ddiagnosio afiechyd. Dysgwch sut mae pelydrau-X yn gweithio a sut i gael DNA o gelloedd.
Mae tocynnau ar gyfer Gwychoniaeth yn £6 i oedolion, £4 i blant, £15 am docyn teulu a £3 y pen ar gyfer grwpiau wedi’u trefnu o dros 10 o bobl. Mae tocynnau ar gael nawr o Ganolfan Groeso Wrecsam ar 01978 292015 neu Techniquest Glyndŵr ar 01978 293400 neu trwy alw heibio Canolfan Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr (ar agor tan 10pm yn ystod yr wythnos ac 8pm ar benwythnosau). Fel arall gellir prynu tocynnau ar ddiwrnod y digwyddiad.