Her Car Heulol Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam
Bydd cystdleuaeth gŵyl wyddoniaeth eleni yn gweld disgyblion o ysgolion yng ngogledd Cymru yn cynllunio ac adeiladu eu car heulol eu hunain ar gyllideb – ac yna’n eu rasio mewn rownd derfynol gyffrous ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Nod her y car heulol yw cael plant i feddwl am beirianneg ac ynni heulol wrth i’r byd ystyried dyfodol sydd yn gynaliadwy a gwyrdd.
Gan ddefnyddio pecyn o ddeunyddiau gwerth £200, cafodd y disgyblion ryddid i greu car heulol o’u dewis hwy, gyda chyngor ynghylch egwyddorion cynllunio gan staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae aelodau o dîm car heulol y brifysgol ei hun, Tân Y Wawr, wedi bod yn ymweld ag ysgolion i roi cefnogaeth arbenigol.
Bydd rownd derfynol y gystadleuaeth ar Ddydd Mercher 13 Gorffennaf yn rhoi’r ceir trwy gyfres o brofion er mwyn herio ansawdd adeiladu a chynllunio eu car heulol.
Mae disgybilion 13-14 oed o’r ysgolion canlynol wedi bod yn cymryd rhan:
• Ysgol Uwchradd Darland
• Ysgol Alun, Yr Wyddgrug
• Ysgol Maes Garmon
• Ysgol Glan Clwyd
Gweler y wasg leol a wrexhamsf.com am ganlyniadau llawn a lluniau o’r rownd derfynol!

01978 293466
wsf@glyndwr.ac.uk





