SF09logo
Thursday 19 – Friday 27 July 2012
Dydd Iau 19 – Dydd Gwener 27 Gorffennaf 2012

Flickr Logo

Solar Car Comp Welsh

Prifysgol Glyndŵr yn herio plant ysgol i adeiladu eu ceir heulol eu hunain ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam 2011

Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu herio i gynllunio, adeiladu a rasio eu car heulol eu hunain mewn dim ond 12 wythnos gan ddefnyddio pecyn gwerth £200 o ddefnyddiau.

Mae Prifysgol Glyndŵr yn gwahodd ysgolion o ogledd Cymru a’r ardal gyfagos i gymryd rhan mewn cystadleuaeth car heulol. 
Bydd timau o ddisgyblion 13-14 oed o wyth ysgol yn cael pecynnau ceir heulol, ynghyd â chell heulol, injan drydan ac olwynion, i ddatblygu ceir model 30cm.

Yn ystod y 12 wythnos, byddant yn cael eu mentora gan ddarlithwyr a myfyrwyr o dîm car heulol y brifysgol ei hun, sydd wrthi’n adeiladu cerbyd newydd o’r enw ‘Tân y Wawr’.

Bydd y tîm yn rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch egwyddorion cynllunio, cynaliadwyedd a pheirianneg er mwyn helpu’r disgyblion i gwblhau’r her.

Yn y cyfamser, bydd y disgyblion yn cael eu cefnogi gan athrawon dylunio, technoleg a gwyddoniaeth eu hysgolion. 

Bydd y ceir gorffenedig yn cymryd rhan mewn digwyddiad unigol ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Bydd y gystadleuaeth derfynol yma yn cynnwys ras ffordd a fydd yn rhoi’r ceir trwy gyfres o brofion – gan gynnwys corneli, twmpau a ‘thwnnel angof’, ble profir perfformiad y ceir pan nad oes golau ar gael.

Mae’r gystadleuaeth yn un o gyfres o ddigwyddiadau yn Rhaglen Ysgolion Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam eleni. Mae’n cael ei hariannu gan y rhaglen STEM AU genedlaethol, sef menter dan arweiniad Cynghorau Cyllido Addysg Uwch Cymru a Lloegr i hyrwyddo pobl i ymgymryd â gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Meddai trefnydd y gystadleuaeth, Graham Sparey-Taylor, uwch ddarlithydd mewn peirianneg modurol a chwaraeon modurol ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Bwriad yr her yw cael myfyrwyr i ganolbwyntio ar wyddor peirianneg a’u hannog i feddwl am newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd.

“Rydym eisiau iddynt archwilio’r modd y gallwn ddefnyddio ynni adnewyddadwy i gynnal ein hamgylchedd ac, wrth wneud hynny, mewn ffordd hwyliog a difyr, feddwl am rai o’r gwyddorau tu ôl i dechnolegau adnewyddadwy.” 

Dylai ysgolion ebostio education@solarcarwales.co.uk gan nodi mewn dim mwy na 200 gair pam fod ganddynt ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 4 Mawrth 2011.

Bydd wyth ysgol yn cael eu dewis o blith y ceisiadau a ddaw i law. Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ym mis Mawrth gydag ymweliadau ag ysgolion gan dîm car heulol Tân y Wawr.

Cynhelir diwrnod y gystadleuaeth derfynol yn yr haf – dyddiad a lleoliad i’w cadarnhau.