Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam 2011
Bydd y cais i ddatrys dirgelion y bydysawd, y gwyddor tu ôl i chwaraeon eithafol a hanes hynafol bywyd dynol yng Ngogledd Cymru yn cael eu hamlygu yn yr Ŵyl Wyddoniaeth Wrecsam eleni.
Dywed trefnwyr yr ŵyl, sef yr unig un o’i bath yn yr ardal, fod y rhaglen lawn o ddigwyddiadau wedi’i chynllunio i apelio at bobl o bob oedran a diddordebau.
Yn rhedeg o Ddydd Iau, Gorffennaf 14 hyd at Ddydd Gwener, Gorffennaf 22, bydd yr ŵyl yn cynnwys digwyddiadau gan gynnwys sgwrs am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y Gwrthdarwr Hadron Mawr, y mae gwyddonwyr yn gobeithio a fydd yn ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf sylfaenol mewn ffiseg.
Bydd y cyfuniad o sgyrsiau, gweithdai ac arddangosiadau yn cynnwys diweddariad am ymchwil a chynhyrchu sydd yn yr arfaeth mewn technoleg cyfansoddau arloesol yn Airbus, un o gyflogwyr mawr yr ardal.
Bydd gŵyl 2011 yn seiliedig ar bedair thema – y Ddaear a’r Bydysawd; Byd yr Anifeiliaid; y Corff a’r Meddwl Dynol a Gwreichion Llachar.
Canolbwyntir hefyd ar flynyddoedd rhyngwladol cemeg a fforestydd.
Dywedodd Dr Helen James, Cadeirydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr, ble cynhelir yr ŵyl, y byddai’r ŵyl yn lansio haf o ddigwyddiadau o bwys yn ardal Wrecsam.
Ychwanegodd Dr James: “Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Wrecsam ddiwedd Gorffennaf a dechrau Awst, mae’n bleser gennym gael amserlen mor gyffrous o ddigwyddiadau i adlewyrchu’r datblygiadau sy’n cael eu gwneud mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yng Ngogledd Cymru, y DU a thrwy’r byd i gyd.
“Rydym yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn dal dychymyg ymwelwyr o bob oed ac yn ein hysbrydoli ni i gyd i archwilio byd gwyddoniaeth trwy lygaid newydd.”
Bydd rhaglen lawn yr ŵyl yn cael ei datgelu ym mis Mai. Mae digwyddiadau newydd yn cael eu hychwanegu bob dydd yn y cyfnod sy’n arwain at yr ŵyl, a bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu rhoi ar wefan yr ŵyl, www.wrexhamsf.com, tudalen Facebook a phorthiant twitter - @wrexhamscifest.
Gall aelodau o’r cyhoedd gael eu hychwanegu at y rhestr bostio trwy anfon eu cyfeiriad post llawn at wsf@glyndwr.ac.uk.

01978 293466
wsf@glyndwr.ac.uk





